3,015 o negeseuon wedi eu hanfon at ASau

Etholiad 2019

Yr etholiad mwyaf pwysig ers 75 mlynedd. Y trobwynt yn saga Brexit. 

Rowch stop ar y peth.

  • Felly gallwn ni AROS yn aelod arweiniol o’r Undeb Ewropeaidd 
  • Felly gallwn ni ffocysu ar wella bywydau pawb 
  • Felly allwn ni ddechrau gwella ein gwlad 
  • Felly nad ydym ni yn gwastraffu degawd arall

PLEIDLEISIWCH DROS YMGEISYDD BYDD YN RHOI CYFLE OLAF I CHI GAEL DWEUD EICH DWEUD.

 

DEWIS I’R GARFAN GADAEL

Mae Boris Johnson, y Prif Weinidog Torïaidd, wedi llwyddo cael dêl ar delerau gadawiad y DU o’r UE.

Nad oes dêl ar ein perthynas dyfodol â’r UE ac mae brexit ‘heb gytundeb’ – hynny yw chwalu allan o’r UE – o hyd yn bosibiliad.

Pe byddai’r blaid Dorïaidd yn cael ei ail-ethol mae’n bosibiliad mawr bydd y pwysau mewnol o’r grŵp eithafol yr ERG yn cadw trwyn Johnson at y man i siapio’r Brexit mwyaf caled posib.

Mae Nigel Farage, arweinydd y Blaid Brexit, yn credu bod yr hyn mae Johnson wedi’i drafod yn werth nes a beth at ddim. Er hynny, ni fydd ei blaid yn herio seddi Torïaidd ac maent, ynhytrach, yn benderfynol o wneud niwed i bleidiau eraill.

Y DEWIS I ARHOSWYR

I’r rheiny sydd yn frwd i weld y DU yn aros yn yr Undeb Ewropeaidd, mae’n hanfodol na fydd y Blaid Dorïaidd yn cael mwyafrif. Ond mae hwn yn cynnig dewis i aroswyr – dewis sydd yn anodd ar adegau.

Mae Llafur yn dweud bydden nhw yn trafod dêl well a chynnig hwn i’r bobl mewn refferendwm, ble byddai Aros yn opsiwn. Mae’r democratiaid Rhyddfrydol, Plaid Cymru, yr SNP a’r Blaid Werdd – a mwyafrif llethol o aelodau’r Blaid Lafur – i gyd yn gytûn o blaid aros yn yr UE. Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol eisiau canslo Brexit gan ddirymu erthygl 50. Mae’r gweddill eisiau’r mater wedi’i ddatrys gydag ail refferendwm.

Bydd yr etholiad yma yn cynnig dewisiadau anodd i nifer o bleidleiswyr bydd efallai yn gwrthdaro gyda hen deyrngarwch. Ond i ddatrys problem ddiffiniol ein oes mae’n rhaid mai’r nod trechol yw i ethol y nifer mwyaf posib o ASau Cymraeg sy’n cefnogi aros yn yr UE, bo hynny drwy refferendwm newydd neu gan ddirymu Erthygl 50 yn syml.

DYLAI PLEIDLEISWYR BLEIDLEISIO YN DACTEGOL I GYRRAEDD Y NOD HON