3,015 messages sent to MPs

Pleidleisio Tactegol

Er mwyn Stopio Boris yn yr etholiad hwn, rhaid i ni i gyd bleidleisio’n dactegol. Gwelwch yr argymhellion ar gyfer eich etholaeth yma.

Gall pleidleisio tactegol fod yn ddryslyd, felly dyma rai atebion i gwestiynau cyffredin.

 

C. Beth yw pleidleisio’n dactegol?

Pleidleisio tactegol yw pan mae person yn pleidleisio dros ymgeisydd na fydden nhw’n arferol yn cefnogi er mwyn atal ymgeisydd arall rhag ennill.

C. Rydw i’n teimlo’n anghyfforddus yn pleidleisio dros blaid ar wahân i’r un rydw i’n rhan ohono / sydd well gennyf.

Deallwn yn iawn fod teyrngarwch dros blaid yn aml yn gryf ac mewn etholiad ‘normal’ dylech, wrth gwrs, bleidleisio gyda’ch cydwybod. Ond nid yw hwn yn etholiad ‘normal’. Os fydd llywodraeth Dorïaidd neu o blaid Brexit yn cael ei hethol unwaith eto, byddwn ni bron yn sicr o adael yr UE ar y telerau gwaethaf posib. Yr unig ffordd i stopio hyn yw pleidleisio’n dactegol ac i bleidleisio mewn niferoedd. Rydym ni’n gofyn i’n cefnogwyr i osod eu teyrngarwch pleidiol i un ochr ble’n angenrheidiol a phleidleisio i alluogi pleidlais gadarnhaol i stopio Brexit. Fe ellir pleidleisio i gael gwared ar yr AS yn eich etholaeth ymhen pum mlynedd (neu lai!) ond mae Brexit yn benderfyniad am oes.

C. Pam ydy Cymru Dros Ewrop yn cefnogi pleidleisio tactegol?

Yn yr etholiad hwn rydym ni yn ymgyrchu i ethol cymaint o ASau o blaid aros, ac o blaid Pleidlais y bobl, a phosib ac mae hynny yn golygu bod rhaid sicrhau nad yw ymgeisydd Ceidwadol neu o blaid Brexit yn ennill. Felly mae’n rhaid pleidleisio’n dactegol. Bydd rhai ohonom ni ddim yn ddigon lwcus i allu pleidleisio i stopio Brexit drwy bleidleisio dros ein hymgeisydd dewisol. Yn anffodus, mae’r cyfuniad o’r system ‘cyntaf i’r felin’ a phleidleisio llwythol yn golygu bydd rhaid i rai ohonom ni ‘fenthyg’ ein pleidlais i’r ymgeisydd mwyaf tebygol o guro’r ymgeisydd Ceidwadol neu Blaid Brexit. Er enghraifft, os mae trwch blewyn rhwng ymgeisydd Ceidwadol ac ymgeisydd o blaid Aros yn eich etholaeth ond byddech chi’n arferol yn pleidleisio dros ymgeisydd arall o blaid aros, fe allech chi ‘fenthyg’ eich pleidlais i’r ymgeisydd tactegol er mwyn codi’r siawns o drechu’r Ceidwadwyr. Rydym ni’n argymell chi i bleidleisio dros yr ymgeisydd orau i guro’r ‘Brexit-wr’. Mae Nigel Farage wedi penderfynu na fydd ymgeiswyr y Blaid Brexit yn sefyll yn y seddi de’u henillwyd gan y Ceidwadwyr yn 2017. Y bwriad yw ceisio cael mwyafrif ar gyfer Brexit. Bydd y Blaid Brexit yn sefyll mewn etholaethau fel Gŵyr, Dyffryn Clwyd a Gogledd Caerdydd i geisio disodli’r ASau Llafur o blaid Aros.

C. Ydy Cymru dros Ewrop yn dewis yr ymgeiswyr?

Na. Rydym ni’n adrodd argymhellion o’r gwefannau pleidleisio tactegol ac rydym ni’n gofyn i bleidleiswyr ddod i benderfyniad gan ddefnyddio’r data sydd ar gael.

C. beth yw’r Addewid Aroswyr?

Mae Cymru dros Ewrop wedi ysgrifennu addewid: “Rwy’n credu bod heddwch a ffyniant ar draws y cyfandir hwn, yn ogystal â buddiannau Cymru a’r DU, yn cael eu gwireddu yn y ffordd orau gan ein haelodaeth barhaus o’r Undeb Ewropeaidd. Mewn refferendwm newydd byddaf yn ymgyrchu i Aros yn yr UE.” Rydym ni wedi gofyn i bob ymgeisydd sy’n sefyll yng Nghymru i adio eu henwau. Gweler rhestr o bob ymgeisydd sydd wedi arwyddo’r addewid yma.

C. Sut ydw i’n gywbod dros bwy i bleidleisio?

Fe all pleidleiswyr weld a chymharu’r argymhellion o wefannau pleidleisio tactegol ar https://tactical.vote/compare. Nodir ei fod yn bosib bydd argymhellion yn newid os mae’r sefyllfa yn newid. Os gwelwch yn dda edrychwch ar y wefan cyn pleidleisio.

C. Oes ots os nad ydw i’n pleidleisio’n dactegol?

Mewn llawer o etholaethau mae pleidleisio’n dactegol yn hollbwysig. Mewn rhai etholaethau bydd pleidlais dros ymgeisydd o blaid aros arall, nid y dewis tactegol, yn golygu fe gaiff y bleidlais Aros ei hollti a bydd yr ymgeisydd Ceidwadol yn ennill. Pe byddai pob pleidlais wedi mynd yn hytrach at yr ymgeisydd tactegol, byddai hi/fe wedi gallu ennill. Byddai’n arbennig o ddychrynllyd gweld buddugoliaeth y Blaid Brexit neu Geidwadol ar y sail hon.

C. Beth yw’r canlyniad posib os mae digon o bobl yn pleidleisio’n dactegol?

Mae’n amhosib gwybod gan fod cymaint o newidynnau, gan gynnwys y nifer o bobl fydd yn pleidleisio ar y diwrnod. Fodd bynnag, os mae digon o bobl yn cymryd rhan mae’n bosib welwn ni llywodraeth grog fel y canlyniad mwyaf tebygol, byddai’n dda ar gyfer stopio Brexit.

C. Mae’r debyg bod siawns isel iawn o fuddugoliaeth plaid Aros yn fy etholaeth.Beth ddylwn i wneud?

Fe fedrwch chi o hyd pleidleisio’n dactegol! Mae etholiadau yn hynod anrhagweladwy, ac mae’n debygol welwn ni rhai seddi ‘saff’ yn newid dwylo. Os rydych chi am wneud mwy na phleidleisio yn unig, cysylltwch gyda’ch grŵp lleol i wybod mwy am ddigwyddiadau maent wedi trefnu yn yr amser cyn yr etholiad. Mae yna lawer yn helpu i ymgyrchu mewn seddi mwy ymylol.

C. Dydw i ddim yn cytuno’n hollol gyda pholisïau Llafur, y Democratiaid Rhyddfrydol na Phlaid Cymru. Beth ddylwn i neud?

Ydy hwn wir mynd i wneud gwahaniaeth pan y dewis amgen yw mwyafrif Ceidwadol a Brexit o fewn wythnosau? Dim llawer; byddwch chi’n gallu pleidleisio i waredu eich AS pe byddech chi eisiau o fewn pum mlynedd neu’n bosib hyd yn oed yn gynharach. Mae pleidleisio dros blaid nad ydych chi’n llawn credu ynddo yn anodd, ond mae’n angenrheidiol yn yr etholiad hwn.

C. Dydw i ddim yn hoffi Swinson na Corbyn. Sut fedrai i bleidleisio drostynt?

Cofiwch dydych chi ddim yn pleidleisio dros Corbyn neu Swinson, rydych chi’n pleidleisio dros EICH AS yn EICH etholaeth. Mae eich pleidlais ond yn berthnasol yn eich etholaeth.

C. Pam nad oes gan bob etholaeth yr un blaid fel ei opsiwn tactegol?

Oherwydd mae’r argymhellion pleidleisio tactegol yn cael eu cyfrifo fesul etholaeth, ac nid yw’n cefnogi un blaid dros un arall, nac un polisi dros un arall. Maent yn cael eu selio yn hollol ar ba ymgeisydd o blaid Aros/ Pleidlais y Bobl sydd mwyaf tebygol o guro’r ymgeisydd ceidwadol ym mhob etholaeth.

C. Mae’n well gen i ddirymu erthygl 50 yn hytrach na chael Pleidlais i’r Bobl.

Mae’n siŵr eich bod ch, ond nid yw hi o fewn eich pŵer i wneud hynny. Os nad ydych chi yn pleidleisio’n dactegol byddwch yn galluogi llywodraeth Geidwadol a Brexit sicr. Yn y pen draw penderfyniad y llywodraeth bydd sut i ddelio gyda Brexit, a dyna pam mae cyfansoddiad y llywodraeth newydd mor bwysig.

C. Rydw i’n credu dylai’r etholiad yma fod am yr Argyfwng Hinsawdd ac ethol ASau’r Blaid Werdd.

Yr argyfwng hinsawdd yw’r mater pwysicaf sy’n wynebu’r ras ddynol, ac mae’n bosib bod y mater Brexit yn ymddangos yn fach o gymharu â’r dasg o achub y blaned. Serch hynny, mae stopio Brexit yn hanfodol er mwyn delio gyda’r argyfwng hinsawdd. Ni fydd llywodraeth Johnson yn blaenoriaethu mesurau i ffocysu ar yr argyfwng a bydd yn fwy tebygol o erlyn polisi bydd yn gwaethygu’r sefyllfa. Mae pob plaid sydd o blaid ail refferendwm neu stopio Brexit wedi addo neud ymdrech i frwydro’r argyfwng hinsawdd. Yn yr etholiad yma, stopio Brexit yw’r unig ffordd i stopio’r argyfwng hinsawdd.

C. Beth ddylen i neud os mai dau ymgeisydd o blaid aros sydd yn cystadlu i ennill yn fy etholaeth?

Mae gan rhai seddi yng Nghymru gystadleuaeth dynn rhwng dwy blaid ‘Aros’. Yn yr achos hwn rydym yn argymell edrych ar wefannau pleidleisio tactegol i wirio’r opsiwn gorau ar gyfer eich etholaeth.

C. Beth am y Gynghrair Aros?

Mae yna bact rhwng Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Blaid Werdd mewn 11 o seddi yng Nghymru. Yn yr etholaethau yma, dim ond un o’r tair plaid fydd yn sefyll. Os rydych chi’n byw yn un o’r etholaethau yma, gwiriwch ar y wefan cymhariaeth pleidleisio dactegol am gymorth, gan mae’n bosib na fydden nhw’n argymell un o’r pleidiau yna ym mhob achos.

C. Rydw i yn mynd i bleidleisio’n dactegol. Allai wneud rhywbeth arall i helpu?

Fe allech chi gysylltu gyda’ch grŵp lleol i ffeindio mwy o wybodaeth am y gweithgareddau maent wedi trefnu yn eich ardal. Mae nifer wedi trefnu i ddosbarthu taflenni, cynnal stondinau stryd, brexitometers a hustyngau, ac mae’r holl ddigwyddiadau yma angen gwirfoddolwyr brwdfrydig i’w helpu rhedeg heb broblem! Mae nifer o grwpiau lleol hefyd yn gallu eich arwain at ddigwyddiadau mewn etholaethau ymylol cyfagos, ble all sgyrsiau gydag ond rhai o bobl yn gallu neud gwahaniaeth mawr. Fe allech chi hefyd rhoi i’n hymgyrch fel ein bod ni’n gallu ariannu mwy o nwyddau ymgyrchu a phamffledi.