3,015 messages sent to MPs

Seddi ymylol Cymraeg allweddol

Y gêm yn parhau o hyd

Yn yr Etholiad Cyffredinol yma, Brexit fydd y mater diffiniol ar gyfer y wlad hon. Mae gennym ni gyfle hanesyddol i ethol llywodraeth bydd yn rhoi’r cyfle am bleidlais newydd i’r bobl ble medrwn ni gael dweud ein dweud. Bydd hwn ond yn cael ei gyflawni drwy bleidleisio’n graff ac yn dactegol a drwy ymgyrchu.

Does gan Cymru dros Ewrop ddim tadogaeth bleidiol. Dydyn ni ddim yn cefnogi pleidiau, yn hytrach gwnawn ni gefnogi ymgeiswyr bydd yn rhoi cyfle ffres i benderfynu pe gadael yr UE neu aros. Bydd Cymru Dros Ewrop yn bwriadu rhoi gwybodaeth lawn i bleidleiswyr Cymreig fel bo’ angen ynglŷn â’u pleidlais. Byddwn yn diweddaru’r wybodaeth yma ble mae angen drwy gydol y cyfnod etholiadol.

Mae gan Gymru 40 etholaeth. Yn yr Etholiad yn 2017, fe etholwyd 8 o ASau o’r Blaid Dorïaidd, 4 o Blaid Cymru a 28 o’r Blaid Lafur. Yn yr isetholiad yn 2019 ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed fe enillodd y Democratiaid Rhyddfrydol sedd oddi wrth y Torïaid.

 

Seddi Ceidwadol

O’r 7 sedd Ceidwadol yng Nghymru mae gan 5 ohonynt fwyafrif o llai na 9%. Mae Pleidlais y bobl wedi cynwwys Preseli-Penfro yn ei 100 o seddi targed, ac maent yn annog pleidleisio dros Llafur, felly gwneir Best for Britain hefyd.

Etholaeth AS presennol Mwyafrif Mwy. % 2017 ail blaid
Preseli-Penfro Stephen Crabb 314 0.7 Labour
Aberconwy Guto Bebb* 635 2.0 Labour
Bro Morgannwg Alun Cairns 2,190 4.1 Labour
Gor Caerf. & D Sir Benfro Simon Hart 3,110 7.4 Labour
Gor Clwyd David Jones 3,437 8.5 Labour

* Bu Guto Bebb yn un o’r ASau fu golli chwip y blaid. Ni fydd yn sefyll yn yr etholiad hwn.

 

Seddi Llafur

O’r 28 o seddi Llafur yng Nghymru, mae gan 5 ohonynt fwyafrif o lai na 9%. Mae Pleidlais y Bobl wedi cynnwys pob un ohonynt, heblaw Gogledd Caerdydd, yn ei 10 o seddi targed. Mae Best for Britain wedi argymell pleidleisio dros y blaid Lafur ym mhob un o’r seddi canlynol.

Etholaeth AS presennol Mwyafrif Mwy. % 2017 ail blaid
Wrecsam Ian Lucas* 1,832 5.2 Con
Dyffryn Clwyd Chris Ruane 2,379 6.1 Con
Gor Casnewydd Ruth Jones 1,951 8.3 Con
Gwyr Tonia Antoniazzi 3,269 7.2 Con
Gogledd Caerdydd Anna McMorrin 4,174 8.0 Con

* Ni fydd Ian Lucas yn sefyll yn yr etholaid hwn.

 

Sedd y Democratiaid Rhyddfrydol

Unig sedd y Democratiaid Rhyddrfrydol blw mae’n bosib bydd y Torïaid yn herio yw Brycheiniog a Sir Faesyfed, ennillwyd gan y Democratiaid Rhyddfrydol yn yr is-etholaeth 2019. Mae’r sedd yn cael ei gynnwys yn rhestr Pledlais y Bobl o 100 sedd targed. Maent hwy a Best for Britain yn argymell cefnogi yr AS presenol.

 

Etholaeth AS presennol Mwyafrif Mwy. % 2017 ail blaid
Bycheiniog & Sir Faesyfed Jane Dodds 1,425 4.6 Con

 

 

Seddi Plaid Cymru

 

Yn y pedwar sedd Plaid Cymru – Arfon, Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Ceredigion a Dwyfor Meirionnydd – dim ond yn Nwyfor Meirionnydd fe ddaeth y Blaid Dorïaidd yn ail yn yr etholiad yn 2017. Mae Pleidlais y bobl yn rhestru pob un o’r seddi fel un o’u 100 sedd targed heblaw Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.

 

Etholaeth AS presennol Mwyafrif Mwy. % 2017 ail blaid
Arfon Hywel Williams 92 0.3 Lab
Dw Caerf. & Dinefwr Jonathan Edwards 3,908 9.5 Lab
Ceredigion Ben Lake 104 0.3 LibDem
Dwyfor Meirionnydd Liz Saville-Roberts 4,850 16.0 Con

 

Y Gyngrhair Aros

Ar y 7fed o Dachwedd fe gyhoeddwyd pact rhwng Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Blaid Werdd yn 11 o’r 40 o seddi yng Nghymru. Mae’r democratiaid Rhyddfrydol hefyd wedi cytuno i beidio sefyll, bob un er mwyn y blaid arall, yn 49 o seddi yn Lloegr. Nid yw hwn wedi bod heb ddadl yng Nghymru gan fod oleua dau o’r seddi Llafur wedi’u cipio gan Aelodau Seneddol sy’n angerddol dros Aros yn yr UE, sydd wedi ymddiswyddo o safleoedd wrthblaid ar sail y mater hwn; Jo Stevens yng Nghaerdydd Canolog ac Owen Smith ym Mhontypridd. Ni fydd Owen Smith yn sefyll ond mae Jo Stevens yn un o’r rai sydd wedi arwyddo Addewid Aros Llafur (gweler isod)

 

Sedd Plaid presennol Cynrych. Cyngrair Aros
Arfon Plaid Cymru Plaid Cymru
Dwyfor Meirionnydd Plaid Cymru Plaid Cymru
Dwy. Caerfyr. & Dinefwr Plaid Cymru Plaid Cymru
Caerffilli Llafur Plaid Cymru
Llanelli Llafur Plaid Cymru
Pontypridd Llafur Plaid Cymru
Ynys Mon Llafur Plaid Cymru
Caerdydd Canolog Llafur Democratiaid Rhyddfrydol
Brycheiniog a Sir Faesyfed Democratiaid Rhyddfrydol Democratiaid Rhyddfrydol
Sir Drefaldwyn Ceidwadwyr Democratiaid Rhyddfrydol
Bro Morgannwg Ceidwadwyr Y Blaid Werdd