3,015 messages sent to MPs

Anrhydeddwch eich addewid, o leiaf – Llythyr agored i ASau Ceidwadol Cymru

Other reads

walesforeurope

Rydych bellach wedi bod yn cynrychioli sedd Gymreig yn y Senedd hon, fel aelod o’r blaid sy’n llywodraethu, am fwy na chwe mis – wyth ohonoch am y tro cyntaf. Maent wedi bod yn fisoedd tyngedfennol ac mae’n rhaid bod ansicrwydd ein bodolaeth corfforol ac economaidd wedi creu mwy o argraff arnoch nag erioed o’r blaen. 

O’ch rhyngweithio gyda’ch etholwyr byddwch yn gwybod yn uniongyrchol bod yr argyfwng hwn wedi datgelu digonedd o gadernid a dewrder ar sawl ffurf, tra’n meithrin nerfusrwydd ac ofn hefyd ac, mewn sawl lle, wedi cyflwyno caledi a thrasiedi.  

Byddwch hefyd yn gwybod cystal ag unrhyw un nad yw’r perygl wedi mynd.  Efallai ein bod ar y trywydd iawn i gynnal y don gyntaf hon o’r feirws ond, yn absenoldeb brechlyn, mae arbenigwyr meddygol yn ofni y gallai ail don ddigwydd y gaeaf nesaf. 

Mae ei effeithiau eisoes yn gadael creithiau dwfn ar ein heconomi a’n cyllid cyhoeddus, heb sôn am addysg ein plant, p’un ai mewn ysgolion neu brifysgolion, yn ogystal â’n diwylliant ehangach. Mae’n rhaid bod eich llwyth gwaith, yn yr etholaeth ac yn San Steffan, yn dweud wrthych yn ddyddiol nad oes unrhyw beth y tu hwnt i gyrraedd y pandemig hwn, p’un ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol. 

Dyma gefndir tywyll cynllun gweithredu tyngedfennol arall gan y wlad a’r llywodraeth, un a fyddai wedi golygu risg sylweddol ar y gorau – ein hymadawiad o’r Undeb Ewropeaidd.  Mae’r penderfyniad i adael wedi cael ei wneud. Rydym wedi brwydro yn ei erbyn am amser hir, ond bellach yn derbyn ei fod yn mynd i ddigwydd. 

Ond rydym yn gofyn eich bod chi a’ch cydweithwyr yn ystyried canlyniadau amrywiol yr argyfwng iechyd digynsail hwn wrth asesu’r amser sydd ei angen i drafod cynllun ymadael â’r UE sydd mor ddidrafferth â phosibl, yn arbennig wrth i’r rhestr o ddiswyddiadau – Airbus, GE, Celtic Manor ac ati – gynyddu. 

Dros y tri mis diwethaf, nid yw wedi bod yn bosibl i’r Prif Weinidog a gweinidogion eraill y llywodraeth – heb sôn am swyddogion yr UE a llywodraethau gwledydd eraill yr UE – roi’r sylw haeddiannol i’r broses ymadael. Does neb i’w feio am hynny.  Roedd bywydau, yn llythrennol, yn y fantol. 

Fodd bynnag, mae’r Llywodraeth wedi penderfynu peidio gwneud cais i ymestyn y Cyfnod Pontio, fel y nodir yn y Cytundeb Ymadael.  Ond nid yw cadw at ddyddiad artiffisial o 1 Ionawr 2021 yn rhyddhau’r Llywodraeth o’r addewidion a wnaed i’r etholwyr ym maniffesto Etholiad Cyffredinol 2019, goblygiadau’r Cytundeb Ymadael na’r egwyddorion a gytunwyd gyda’r UE yn y Datganiad Gwleidyddol. 

Mae’n siŵr y bydd eich etholwyr yn ei chael hi’n anodd deall, neu faddau, pe byddai glynu wrth amserlen drafod amhosibl yn arwain at gytundeb o safon is, neu hyd yn oed dim cytundeb o gwbl, lle gallai mwy o amser ac amynedd greu canlyniad sy’n bodloni’r holl addewidion hyn. 

Mae’n rhaid bod hyn yn gofyn eich bod yn dal eich llywodraeth eich hun at ei gair yn ymwneud â’r canlynol: 

 

  • trafod cytundeb masnach rydd uchelgeisiol ac eang gyda’r UE ac, felly, peidio ystyried gadael yr UE heb gytundeb

 

  • peidio caniatáu trafodaethau masnach, y Bil Amaethyddiaeth nac unrhyw fesur arall i beryglu ein safonau uchel o ran diogelu’r amgylchedd, lles anifeiliaid a bwyd 

 

  • sicrhau nad yw ein safonau uchel ar hawliau dynol, hawliau gweithwyr a diogelu defnyddwyr a’r amgylchedd yn cael eu herydu

 

  • a sicrhau nad yw cytundebau masnach yn torri rheolau nac yn erydu hawliau llywodraethau datganoledig

 

Rydym yn eich annog chi a’ch cydweithwyr i sefyll dros yr addewidion y gwnaethoch i’ch etholwyr yn ystod yr etholiad diwethaf – i anrhydeddu eich addewidion i ni. 

Mae’r Datganiad Gwleidyddol yn nodi agenda drafod fyddai’n hynod o anodd, hyd yn oed heb ymyrraeth pandemig Covid. Os ydych o’r farn bod angen mwy o amser i anrhydeddu’r addewidion hynny, eich dyletswydd, hyd yn oed nawr, yw annog eich llywodraeth i’w gymryd. 

Fel AS sydd yn cynrychioli etholaeth yng Nghymru, byddwch yn gwybod gymaint sydd yn y fantol i Gymru. Mae wedi bod ar waelod tablau cynghrair economaidd y DU ers yn rhy hir.  Mae brwydro yn erbyn Covid yn gadael ei ôl ar ei phobl a’i busnesau.  Ni all bellach fforddio beichiau ychwanegol.  Rydym yn eich annog i ddiogelu eich etholwyr eich hun a’r wlad yn erbyn tor-addewidion a phenderfyniadau byrbwyll, a wnaed yn erbyn terfynau amser a osodwyd gennych chi, hyd yn oed o dan orthrwm Covid.  

 

Yn gywir, 

Helen Wales, Cadeirydd, Cymru dros Ewrop

Mark Brenchley, Brycheiniog a Sir Faesyfed dros Ewrop

Dr Charles Smith & Robert Evans, Pen-y-bont ar Ogwr dros Ewrop

Neil Schofield-Hughes, Caerdydd dros Ewrop

Mark Sheppard, Sir Gaerfyrddin dros Ewrop

Iwan ap Dafydd, Ceredigion dros Ewrop

Aled Canter, Sir Ddinbych dros Ewrop

Simon Jones, Sir Fflint dros Ewrop

Belen Martin-Caravaca, Gwent dros Ewrop

Martin Hughes, Gwynedd dros Ewrop

Padraig John O’Brien, Merthyr Tudful dros Ewrop

Ceri Young, Castell-nedd Port Talbot dros Ewrop

Alistair Cameron, Sir Benfro dros Ewrop

Paul Willner, Abertawe dros Ewrop

Sally Stephenson, Bro Morgannwg dros Ewrop

Shaun Thomas, Y Cymoedd dros Ewrop 

Geraint Talfan Davies, Cymru dros Ewrop

Phil Dore, Cymru dros Ewrop

Peter Frederick Gilbey, Cymru dros Ewrop

Neal Cole, Wrecsam dros Ewrop

15 Gorffennaf 2020 

 

Maniffesto 2019 y Ceidwadwyr, 

a’r Datganiad Gwleidyddol

Byddai bodloni’r addewidion a wnaed ar Brexit ym maniffesto 2019 y Ceidwadwyr ac ymdrin â’r agenda enfawr a amlinellwyd yn y Datganiad Gwleidyddol, wedi llethu unrhyw lywodraeth, hyd yn oed heb faterion eraill i ddenu eu sylw, yn ystod tymor cyflawn o bum mlynedd.  Mae cyflawni pob un o’r rhain mewn 12 mis, a thra’n wynebu effeithiau pandemig byd-eang, yn amhosibl. Y perygl yw y byddwn yn wynebu naill ai dim cytundeb o gwbl neu, ar y gorau, cytundeb sydd gryn dipyn yn llai o ran cwmpas, gan adael llwybr o elfennau heb eu cytuno ac ansicrwydd i’n busnesau a chymdeithas yn gyffredinol. 

Mae’r canlynol yn ein hatgoffa o natur a graddfa’r addewidion a’r ymrwymiadau y mae Llywodraeth y DU wedi eu gwneud.  

 

YR HYN DDYWEDODD EICH PLAID

MANIFFESTO 2019

 

  • “Mae gennym gytundeb newydd, gwych sydd yn barod i fynd.” 

 

  • “Gyda Senedd newydd a mwyafrif synhwyrol gallwn gael y cytundeb hwnnw wedi ei gymeradwyo.  Mae’n barod i fynd.” 

 

  • “Mae buddsoddiadau yn aros i ddod i mewn i’r wlad.” 

 

  • “Cyflawni Brexit – a byddwn yn gweld ton gronedig o fuddsoddiad i mewn i’n gwlad.”

 

  • “Ein nod yw bod 80 y cant o fasnach y DU wedi ei gynnwys mewn cytundebau masnach rydd yn y tair blynedd nesaf….Bydd y rhain yn cael eu trafod ar y cyd â’n cytundeb UE.” 

 

  • “Yn ein holl drafodaethau masnach ni fyddwn yn cyfaddawdu ar ddiogelu’r amgygylchedd, lles anifeiliaid a safonau bwyd uchel.” 

 

  •  “Bydd y berthynas yn y dyfodol yn un sydd yn ein galluogi i ….godi safonau mewn meysydd fel hawliau gweithwyr, lles anifeiliaid, amaethyddiaeth.”

 

  • “Byddwn yn trafod cytundeb masnach….Ar yr un pryd, byddwn yn deddfwriaethu i sicrhau safonau uchel o hawliau gweithwyr, diogelu’r amgylchedd a hawliau defnyddwyr.”  

 

  • “Un o gyfleoedd mwyaf Brexit yw’r cyfle i arwain y byd o ran ansawdd ein bwyd, amaethyddiaeth a rheolaeth tir…..”

 

  • “Mae Boris Johnson wedi gosod agenda ar gyfer uwchraddio pob rhan o’r DU – nid yn unig buddsoddi yn ein trefi a’n dinasoedd gwych, yn ogystal â’n hardaloedd gwledig ac arfordirol, ond rhoi mwy o reolaeth iddynt ynghylch sut mae’r buddsoddiad hwnnw’n cael ei wneud.  Yn yr 21ain ganrif, mae angen i ni ddianc o’r syniad mai “Whitehall sy’n gwybod orau’….”

 

  • “Rydym yn dal wedi ymrwymo i ddatganoli pŵer i bobl a lleoedd ar draws y DU.” 

 

  • “Bydd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn cael ei defnyddio i uno’r Deyrnas Unedig, mynd i’r afael ag anghydraddoldeb ac amddifadedd ym mhob un o’n pedair gwlad.  Bydd yn disodli Cronfeydd Strwythurol yr UE sydd yn rhy fiwrocrataidd – ac nid yn unig yn targedu anghenion penodol y DU yn well, ond yn darparu arian cyfatebol o leiaf i faint y cronfeydd hynny ym mhob gwlad.”

 

  • “…byddwn yn sicrhau’r gyllideb flynyddol bresennol i ffermwyr yn ystod pob blwyddyn o’r Senedd nesaf.” 

 

  • “Byddwn yn cynnal cyllid ar gyfer pysgodfeydd ar draws gwledydd y DU…”

 

  •  “Byddwn yn parhau i gydweithredu’n rhyngwladol gyda’r UE ar ymchwil wyddonol, yn cynnwys Horizon.” 

 

  • “Rydym eisiau dinasyddion yr UE a ddaeth i fyw yn y DU cyn Brexit i aros – ac rydym wedi ymrwymo’n gyfan gwbl i sicrhau eu hawliau presennol a sicrhau eu bod yn cael eu croesawu ac yn rhan werthfawr o’n gwlad….”

 

Y Datganiad Gwleidyddol

  • “….mae’r datganiad hwn yn sefydlu paramedrau partneriaeth uchelgeisiol, eang, dwfn a hyblyg ar draws cydweithredu masnachol ac economaidd gyda Chytundeb Masnach Rydd cynhwysfawr a chytbwys yn greiddiol iddo, gorfodi’r gyfraith a chyfiawnder troseddol, polisi tramor, diogelwch ac amddiffyn a meysydd ehangach cydweithredu.” 

 

  • “…mae’r Pleidiau’n gytun y dylid trin y berthynas yn y dyfodol ag uchelgais uchel o ran ei chwmpas a’i dyfnder….”

 

  • Dylai’r berthynas yn y dyfodol ymgorffori ymrwymiad parhaus y Deyrnas Unedig i barchu fframwaith y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (ECHR)….” 

 

  • “Gan nodi lled a dyfnder bwriadol y berthynas yn y dyfodol a’r cyswllt agos rhwng eu dinasyddion, bydd y Pleidiau yn sefydlu egwyddorion cyffredinol, telerau ac amodau ar gyfer cyfranogiad y Deyrnas Unedig yn rhaglenni’r Undeb, mewn meysydd fel gwyddoniaeth ac arloesi, diwylliant ac addysg ieuenctid, datblygu dramor a gweithredu allanol, gallu i amddiffyn, gofod a diogelwch sifil. 

 

  • “…mae’r Pleidiau’n cytuno i ddatblygu partneriaeth economaidd uchelgeisiol, eang a chytbwys. Bydd y bartneriaeth hon yn gynhwysfawr, gan gwmpasu Cytundeb Masnach Rydd, yn ogystal â chydweithredu sectoraidd ehangach lle mae hynny er budd y ddwy Blaid.  Caiff ei ategu gan ddarpariaethau sydd yn sicrhau cystadleuaeth deg a bod pawb yn cael eu trin yn yr un modd….” 

 

  • Mae’r Pleidiau yn rhagweld perthynas fasnachu uchelgeisiol o ran nwyddau ar sail y Cytundeb Masnach Rydd, gyda’r bwriad o hwyluso masnachu dilys yn hawdd. 

 

  • “…gyda’r bwriad o hwyluso symud nwyddau ar draws ffiniau, mae’r Pleidiau’n rhagweld trefniadau cynhwysfawr fydd yn creu ardal masnach rydd, gan gyfuno cydweithredu dwfn o ran rheoliadau a thollau ….”

 

  • “Dylai’r bartneriaeth economaidd, trwy Gytundeb Masnach Rydd, sicrhau dim tariffau, ffioedd, taliadau na chyfyngiadau meintiol ar draws pob sector gyda rheolau tarddu priodol a modern i gyd-fynd â hynny, a threfniadau tollau uchelgeisiol….” 

 

  • “Bydd y Pleidiau yn sefydlu trefniadau tollau uchelgeisiol, wrth fynd ar drywydd eu hamcanion cyffredinol.  Trwy wneud hynny, mae’r Pleidiau’n rhagweld defnyddio’r holl drefniadau a’r technolegau hwyluso sydd ar gael…” 

 

  • “Bydd trefniadau a thechnolegau hwyluso o’r fath yn cael eu hystyried hefyd mewn trefniadau amgen ar gyfer sicrhau absenoldeb ffin galed yn Iwerddon.”

 

  • “Dylai’r Pleidiau gwblhau trefniadau uchelgeisiol, cynhwysfawr a chytbwys ar fasnach mewn gwasanaethau a buddsoddi mewn gwasanaethau a sectorau nad ydynt yn rhai gwasanaeth….Dylai’r Pleidiau geisio cyflwyno lefel o ryddhau masnach mewn gwasanaethau ymhell y tu hwnt i ymrwymiadau Sefydliad Masnach y Byd (WTO) y Pleidiau a datblygu Cytundebau Masnach Rydd diweddar yr Undebau (FTA). 

 

  • “Dylai’r Pleidiau hefyd ddatblygu trefniadau priodol ynghylch y cymwysterau proffesiynnol hynny sydd yn angenrheidiol i fynd ar drywydd proffesiynau wedi eu rheoleiddio, os ydynt er budd i’r holl Bleidiau.” 

Yn ogystal â’r uchod, mae’r Datganiad Gwleidyddol yn rhagweld mynd ar drywydd cytundeb yn y meysydd canlynol. Mae’n rhestr aruthrol, ac oherwydd y cyfyngiadau ar yr amser trafod a gyflwynir gan bandemig Covid, ynghyd ag asesiadau o’r cynnydd hyd yn hyn, mae’n anodd credu y gellir cyflawni’r cyfan yn yr amser y mae Llywodraeth y DU yn mynnu arno. 

Gwasanaethau Ariannol

Masnach ddigidol

Symudiadau a thaliadau cyfalaf

Eiddo deallusol

Caffaeliad cyhoeddus

Symudedd 

Hedfan

Trafnidiaeth Ffordd

Trafnidiaeth reilffordd

Trafnidiaeth forol

Rhwydweithiau trydan a nwy

Niwclear sifil

Prisio carbon

Pysgota

Cydweithredu byd-eang

Gorfodi’r gyfraith

Cydweithredu barnwrol

Cyfnewid data

Atal gwyngalchu arian

Ariannu gwrthderfysgaeth

Polisi tramor

Diogelwch

Amddiffyn

Ymgynghori a chydweithredu

Sancsiynau

Cyfnewid gwybodaeth

Cydweithredu o ran datblygu

Seiberddiogelwch

Amddiffyn sifil

Diogelwch iechyd

Ymfudo anghyfreithlon