3,015 messages sent to MPs

Bum mlynedd yn ddiweddarach: lleisiau o Gymru – Angharad Shaw

Other reads

walesforeurope

“Bu farw fy nhad ym mis Chwefror eleni, yn 85 oed. Roedd yn Brexiter selog, ac wedi bod erioed. Yr oedd yn perthyn i’r genhedlaeth a welodd yr ail ryfel byd, ond nid oedd yn ddigon hen i ddeall nag i chwarae unrhyw ran ynddo.

Roedd yn fab i ffermwr. Mae fy mam yn ferch i arddwr masnachol. Pleidleisiodd fy nhad Na yn refferendwm yr UE yn 1975. Ac felly cefais fy magu â chredoau gwrth-UE; heb ddim i’w cydbwyso, ac fel arall,  ohrwydd ei safbwyntiau gweddol gymedrol, synhwyrol, gwleidyddol, roeddwn i’n parchu fy tad.

Dim ond pan adewais gartref y deuthum i weld  nad oedd ei farn yn gwneud synnwyr; cafodd deddfau nad oedd yn eu hoffi eu beio ar yr UE, a bai’r UE oedd  y dirywiad yn sector amaeth Prydain.  Nid oedd aneffeithlonrwydd gorfod cynhesu tai gwydr yn ein hinsawdd ni i gynhyrchu tomatos ddim wedi ei daro, efallai oherwydd ei fod o genhedlaeth lle nad oedd  bod yn wyrdd erioed wedi cael eu hystyried yn fater pwysig. A pho fwyaf yr edrychais i mewn i’r sefyllfa, po fwyaf yr oedd hi’n gwneud synnwyr inni fod  yn gweithio gyda’n cymdogion er lles pawb.

Yna, yn 21 oed, sicrheais leoliad diwydiannol yn Y Swistir; Bûm yn byw am flwyddyn gyfan yn Kleinbasel, 5 munud ar fy meic o’r  ffin gyda’r Almaen, a 15 o’r ffin  gyda Ffrainc. Roedd ffenestr fy swyddfa yn edrych dros y Rhein a’r Goedwig Ddu yn yr Almaen. Dysgais am ffiniau trwy brofiad uniongyrchol; llinellau ar y map yn ddim ond cerrig ar lawr gwlad, a newid cnwd yn y caeau. Er bod tollau yn bodoli wrth fynd i mewn i’r Swistir a’i adael, yn y bôn nid oedd unrhyw gyfyngiadau rhwng Ffrainc a’r Almaen. Dwy wlad, yn hanesyddol yn aml wedi rhyfela yn erbyn eu gilydd, nawr nid yn unig mewn heddwch, ond yn gweithio gyda’u gilydd. Ond roedd newid ar y ffin; newid diwylliannol, a newid iaith.  Roedd hyn yn rhywbeth a welais yn rhywbeth hynod o ddiddorol, ac yn anhygoel wrth ei brofi.

 Ewn ymlaen yn gyflym  drwy ychydig flynyddoedd (… degawdau mewn gwirionedd), a’r wefr o fyw mewn gwahanol ddiwylliannau, a dysgu amdanyn nhw, yn rhywbeth rydw i wedi gallu helpu myfyrwyr yn y brifysgol i’w brofi- y profiad wedi’i ariannu’n rhannol gan y Cynllun Erasmus. Rwyf wedi ymweld â rhai o fy myfyrwyr ar leoliad yn yr Almaen. Ac mae’n hynod ddiddorol gweld myfyrwyr yn mynd trwy’r un math o brofiad  yr es i drwyddo flynyddoedd yn ôl. Maen nhw i gyd yn dod yn ôl gyda’u bywydau wedi eu cyfoethogi. Nid yn unig hynny, ond  mae eu sgiliau iaith  yn gwella, ac mae eu rhagolygon  ar gyfer swydd yn y dyfodol yn cael eu gwella. Ac, fel yr wyf i yn ei ddweud, wrth recriwtio myfyrwyr o wledydd eraill, mae treulio amser y tu allan i’ch gwlad eich hun, ac edrych yn ôl arno o safbwynt gwlad arall,  yn gadael i chi weld rhai o’r diffygion yn eich gwlad eich hun. Pan rwyt ti’n dychwelyd, efallai y byddi di un diwrnod mewn sefyllfa i helpu i gywiro’r diffygion hynny.

 Ac ar hyn o bryd, mae’r diffygion yn y DU yn fwy amlwg nag erioed.  Rydyn ni newydd golli llawer o gyfleoedd a gawsom o’r blaen. Ni allwn roi’r gorau i’r frwydr i adennill y cyfleoedd coll hyn i’n pobl ifanc, ac yn wir i ni’n hunain. Ni fydd yr UE yn diflannu, a hebddi  bydd ein dyfodol  ni’n dlotach – nid yn ariannol yn unig. Dyma pam mae rhaid i ni byth roi’r gorau i ymladd drosti.”

 

Angharad Shaw