3,015 messages sent to MPs

Cymru Dros Ewrop yn mynnu ymateb mwy cadarn gan y Cynulliad i gytundeb Brexit

Other reads

Peter Gilbey

Mae Cymru Dros Ewrop a grwpiau o blaid yr UE ar draws Cymru yn mynnu ymateb llawer mwyn cadarn gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru pan fydd yn trafod cytundeb y DU-UE yr wythnos nesaf.

Mae’r grŵp ymgyrchu wedi dosbarthu cynnig amgen i holl Aelodau’r Cynulliad ac i Lywodraeth Cymru. Mae hwn yn gofyn i’r Cynulliad

  • wrthod cytundeb Theresa May ac i beidio â chaniatáu Bil Ymadael
  • gwrthod unrhyw gynllun i adael yr UE ‘heb gytundeb’
  • ceisio ymestyn Erthygl 50 ar unwaith y tu hwnt i fis Mawrth y flwyddyn nesaf a
  • mynnu refferendwm newydd, p’un ai bod yr argyfwng presennol yn achosi Etholiad Cyffredinol neu beidio.   

Mae gan y cynnig gefnogaeth rhwydwaith o 16 grŵp o blaid yr UE, sydd bellach yn cynnwys Cymru gyfan.

Dywedodd Geraint Talfan Davies, Cadeirydd Cymru Dros Ewrop: “Nid yw cynnig gwreiddiol Llywodraeth Cymru yn rhoi’r math o arweiniad cryf ar y mater hwn sydd ei angen ar Gymru yn y cyfnod digynsail hwn yn ein hanes.

Mae angen i’n Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo cynnig cadarn sydd yn pwysleisio i’r cyhoedd yng Nghymru na fydd yn cefnogi’r cytundeb sydd gerbron, na’r cynnig trychinebus o sefyllfa ‘dim cytundeb’ lle byddwn yn syrthio allan o’r UE.

“Ni fyddai unrhyw un yn prynu unrhyw beth ar sail braslun yn unig o’r dyfodol a nodir yn y Datganiad Gwleidyddol. Mae angen sylfaen gwybodaeth go iawn arnom cyn i ni benderfynu a ddylid newid llwybr y wlad am ddegawdau i ddod.

“Ni ddylem chwaith gael ein twyllo gan y dewis ffug rhwng Etholiad Cyffredinol a refferendwm newydd. Mae angen Pleidlais y Bobl, p’un ag yw Etholiad Cyffredinol yn cael ei ysgogi neu beidio, er mwyn i bobl allu gwneud penderfyniad gwybodus rhwng unrhyw gytundeb sy’n cael ei wneud a’r opsiwn i aros yn aelod llawn o’r UE,” ychwanegodd.

Cynnig amgen Cymru dros Ewrop

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru

  1. yn nodi’r Cytundeb Ymadael a’r Datganiad Gwleidyddol ar y berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol.
  1. yn nodi diffyg unrhyw dystiolaeth bod buddiannau Cymru wedi cael eu hystyried yn llawn wrth ddod i’r cytundeb hwn, ac mae’n gresynu nad yw buddiannau allweddol Cymru a’r DU wedi cael eu sicrhau gan y cynigion hyn.
  1. yn credu bod y berthynas a ragwelir yn y dyfodol gan y Datganiad Gwleidyddol
    1. yn methu bodloni’r model a nodir yn Diogelu Dyfodol Cymru sydd wedi cael ei gefnogi’n barhaus gan y Cynulliad Cenedlaethol
    2. yn methu darparu ar gyfer cyfranogiad yn y farchnad sengl ac undeb tollau, felly nid yw’n sicrhau buddiannau economaidd Cymru
    3. yn methu rhoi sicrwydd cadarn o ran hawliau gweithwyr, hawliau dynol a deddfwriaeth cydraddoldeb i’r dyfodol.
  1. yn mynegi pryder mawr bod graddfa’r materion a restrir i gael eu trafod ymhellach yn y Datganiad Gwleidyddol yn golygu nad yw’r sail dystiolaeth sydd yn angenrheidiol ar gyfer penderfyniad sydd â chanlyniadau mor bellgyrhaeddol ar gyfer y genedl yn bodoli.
  1. yn gwrthod yn bendant unrhyw gynllun i adael yr Undeb Ewropeaidd heb unrhyw gytundeb ac i ddibynnu ar drefniadau Sefydliad Masnach y Byd.
  1. yn credu, o ystyried yr holl ffactorau uchod, nad yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn sefyllfa ar hyn o bryd i gyfiawnhau rhoi cydsyniad deddfwriaethol i Fil Cytundeb Ymadael.
  1. yn credu na ellir bellach gael canlyniad boddhaol erbyn y terfyn amser artiffisial sef 29 Mawrth 2019, ac y dylai Llywodraeth y DU, felly, geisio cael estyniad ar unwaith i gyfnod Erthygl 50.
  1. yn credu, p’un ai bod etholiad cyffredinol yn cael ei alw neu beidio, y dylid cynnal pleidlais gyhoeddus i benderfynu rhwng cadarnhau unrhyw gytundeb wedi ei ddiwygio neu’r opsiwn o barhau’n aelod llawn o’r UE.

Cysylltiadau

peter@walesforeurope.org

NODER

Mae’r testun ar gyfer cynnig gwreiddiol Llywodraeth Cymru a gyflwynwyd i gael ei drafod dydd Mawrth nesaf, 4 Rhagfyr fel a ganlyn:

1. Yn nodi’r Cytundeb Ymadael a’r Datganiad Gwleidyddol ar y berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol fel y cytunwyd dan y Cyngor Ewropeaidd a Llywodraeth y DU, ond mae’n gresynu nad oes sôn am Gymru na’r Alban yn un o’r dogfennau.

2. Mae’n nodi yn arbennig y trefniadau ar gyfer diogelu hawliau dinasyddion ac am gyfnod pontio y mae Llywodraeth Cymru wedi dadlau yn barhaus o’i blaid, fyddai’n osgoi canlyniad trychinebus ‘dim cytundeb’ ym mis Mawrth 2019.

3. Mae’n nodi y bydd gan y Cynulliad gyfle pellach i drafod y Cytundeb Ymadael wrth ystyried a ddylid rhoi cydsyniad deddfwriaethol neu beidio i’r Bil Cytundeb Ymadael y mae Llywodraeth y DU yn bwriadu ei gyflwyno.

4. Yn credu nad yw’r berthynas yn y dyfodol a ragwelir yn y Datganiad Gwleidyddol yn bodloni’r model ar gyfer perthynas y DU / UE yn y dyfodol fel y nodir yn Sicrhau Dyfodol Cymru, sydd wedi cael ei gefnogi’n barhaus gan y Cynulliad a’i fod yn methu rhoi sicrwydd cadarn o ran hawliau gweithwyr, hawliau dynol a deddfwriaeth cydraddoldeb yn y dyfodol.

5. Yn nodi bod llinellau coch Llywodraeth y DU wedi cyfyngu ar gwmpas y cytundeb dros dro a gytunwyd gyda’r UE ac yn credu y dylai Llywodraeth y DU, yn lle hynny, ganolbwyntio ar sicrhau perthynas hirdymor sy’n caniatáu cyfranogiad yn y farchnad sengl ac undeb tollau, gan geisio ymestyn cyfnod Erthygl 50 os oes angen.

6. Yn credu y dylai Llywodraeth y DU nawr ddatgan ei bwriad i drafod ar y sail honno ac os yw’n methu gwneud hynny, dylid naill ai cynnal etholiad cyffredinol neu bleidlais gyhoeddus ar delerau’r DU yn gadael, neu a yw’n dymuno aros.