3,015 messages sent to MPs

Ymateb i’r bleidlais hanesyddol y Senedd cefnogi Pleidlais Y Bobl

Other reads

Peter Gilbey
To read this post in English, click here.

Dywedodd Geraint Talfan Davies, Cadeirydd Cymru Dros Ewrop:

“Mae’r broses echrydus hon yn rhoi enw drwg i’n gwleidyddiaeth. Mae hefyd yn rhoi’r wlad gyfan mewn perygl. Y bleidlais yn y Senedd ddoe oedd y dystiolaeth amlycaf eto bod budd y genedl yn eilaidd i fudd y blaid. Ymddengys bod arweinyddiaeth, egwyddorion ac amser, i gyd yn brin iawn.

“Mae’n rhywfaint o gysur bod mwyafrif yn Nhŷ’r Cyffredin wedi gwrthod y gwelliant o adael yr UE ‘heb gytundeb’, ond mae’n warth bod 310 o ASau wedi pleidleisio yn erbyn y gwelliant hwnnw, gan adael busnesau y bore ‘ma yn gorfod cynyddu eu hymdrechion i baratoi ar gyfer y perygl o ganlyniad mor drychinebus.

“Mae’n hanfodol bellach bod y dyddiad cau cwbl artiffisial, sef 29 Mawrth, yn cael ei roi i’r naill ochr, p’un ai bod refferendwm newydd yn cael ei alw neu beidio.  Nid oes unrhyw ffordd bellach y gall y ddeddfwriaeth angenrheidiol i adael yr UE gael ei hystyried yn iawn a’i chymeradwyo erbyn y dyddiad hwnnw.

“Yn ddealladwy, nid oes gan y cyhoedd lawer o ddiddordeb yn y ddrysfa weithdrefnol.  Ond mae mwy a mwy o bobl bellach yn gweld mai’r unig ffordd y gallwn geisio gwneud budd y genedl yn ganolbwynt unwaith eto yw trwy Bleidlais newydd y Bobl.

“Mae Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad Cenedlaethol wedi pwysleisio budd y genedl i’r graddau eithaf posibl.  Maen nhw wedi cydnabod methiant Llywodraeth y DU, effeithiau trychinebus gadael yr UE heb gytundeb, ac yn nawr yn cefnogi’r unig ddewis dilys sydd ar ôl, sef gadael i’r bobl benderfynu, mewn Pleidlais y Bobl.

“Bydd Cymru Dros Ewrop a’n holl grwpiau lleol yn dwysáu ein hymdrechion yn y diwrnodau i ddod.”