3,015 messages sent to MPs

Galwad am wirfoddolwr i gefnogi Cynllun Setledig yr UE!

Other reads

walesforeurope

Mae’r dyddiad cau i ddinasyddion yr UE ac  i aelodau o’u teuluoedd  nad ydynt yn ddinasyddion yr UE ar gyfer gwneud cais i Gynllun Setliad yr UE, a sicrhau eu hawl i fyw yn y DU, yn prysur agosáu. Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 30 Mehefin 2021. Efallai y byddant yn colli eu hawl i dai, gwaith, gofal iechyd, astudio, credydau treth a budd-daliadau eraill, ac yn y pen draw eu hawl i aros yn y DU, os ydynt yn methu â gwneud cais. Mae’n bwysig bod POB dinesydd yr UE yn y DU yn ymwybodol o’r angen i wneud cais ac, os oes angen, yn derbyn cymorth ac arweiniad wrth wneud y cais hwnnw.

Ond hyd yn oed os gwnânt hynny, efallai na fydd eu problemau drosodd. Mae llawer o geisiadau, yn enwedig ar gyfer priod  sy’n dod o tu allan i’r UE, heb eu datrys ac wedi bod felly ers misoedd lawer. Ar hyn o bryd, mae tua 350,000 o geisiadau heb eu datrys ac mae’n annhebygol y bydd y ffigur hwnnw wedi gostwng llawer erbyn 30 Mehefin. Bydd bron yn amhosibl i’r rheini nad yw eu cais wedi’i ddatrys i brofi bod ganddynt hawl i aros yn y DU ar ôl y dyddiad cau. Mae’n ddigon anodd i’r rheini sydd â Statws cyn setlo  neu statws wedi eu setlo, gan nad ydynt yn cael dogfen gorfforol fel tystiolaeth o’u statws. Mae angen iddynt gael mynediad i’r rhyngrwyd i dderbyn prawf mewn fformat digidol.

Bydd angen i’r rheini sydd â Statws cyn setlo wneud cais am Statws Setledig os ydyn nhw am aros yn y DU ar ôl i’r Statws cyn setlo ddod i ben. Os oedd y cais am Statws cyn setlo yn anodd iddynt, bydd hynny’n wir eto pan fyddant yn gwneud cais am Statws Setledig. I grynhoi, bydd angen arweiniad a chefnogaeth ar lawer o ddinasyddion yr UE i gynnal eu statws a sicrhau bod eu hawliau yn y dyfodol a hawliau eu teuluoedd yn y DU yn ddiogel.

Mae Settled yn un o asiantaethau mwyaf blaenllaw’r DU sy’n darparu arweiniad a chyngor achrededig yn rhad ac am ddim. Mae ei thîm proffesiynol ymroddedig yn gweithio gyda rhwydwaith o wirfoddolwyr hyfforddedig ac achrededig,  sydd yn gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer y mwyafrif o ddefnyddwyr y  gwasanaeth. Gall gwirfoddolwyr ddelio â’r mwyafrif o ymholiadau sylfaenol a chyfeirio unrhyw achosion cymhleth at  aelodau’r staff a /neu sefydliadau partner sydd â’r sgiliau a’r achrediad cywir i gynorthwyo ymhellach.

Mae nifer yr ymholiadau y mae Settled  a’i phartneriaid yn eu derbyn wedi cynyddu’n drawiadol wrth i’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau agosáu ac mae’n bwriadu sicrhau mwy o gefnogaeth gwirfoddolwyr ar frys, yn enwedig yng Nghymru. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli, dilynwch y ddolen hon https://settled.org.uk/cy/volunteer/ i ddarganfod mwy.