Wales for Europe's statement about the new Windsor Framework - Datganiad Cymru dros Ewrop am Fframwaith newydd Windsor

Wales for Europe is cautiously optimistic to see the Windsor Framework that has just been announced between Britain and the EU, and we are seeing a more positive and collaborative approach in discussions between the President of the European Commission, Ursula von der Leyen, and the UK's Prime Minister - Rishi Sunak. As we wait for more details and for this plan to come to fruition, this all looks promising.

The pro-Europe movement in Wales and the UK has made it clear - a trade war with our neighbours in the European Union would be extremely damaging. Tens of thousands of people expressed their concerns about this through European Movement UK’s successful petition.

While further negotiations continue, and although Brexit will still cause serious economic and social damage to Britain, Wales for Europe hopes that the Windsor Framework marks a significant change of direction, not only to reduce trade barriers for businesses in the UK, and to foster a better relationship between Britain and the European Union, but also to ensure that all four countries, including Wales, have a voice and representation in the negotiations, so that we can all work to reduce the damage as a result of Brexit.

We believe this doesn’t go far enough. First, the new framework does not facilitate the onward traffic of goods to Northern Ireland from the UK via Welsh ports and the Republic of Ireland. Second, there are some crucial next steps to improve cooperation between the 4 UK nations and the European Union. Most notably, the Retained EU Law (Revocation and Reform) Bill needs to be scrapped. It is divisive, and an attack on the protections and regulations for the environment, workers’ rights and food standards.

When Rishi Sunak travelled to Northern Ireland to sell the Windsor Framework, he emphasised Northern Ireland's 'special position' for having both UK and European Single Market access. If this significantly benefits Northern Ireland, then why can't Wales, or indeed the whole United Kingdom, have access to the European Union's Single Market as well? 

Wales for Europe will continue to pursue our campaign by working with all political parties, and likeminded organisations.


Mae Cymru dros Ewrop yn obeithiol -tra’n aros yn wyliadwrus- ar ôl gweld Fframwaith Windsor sydd newydd gael ei gyhoeddi rhwng Prydain a’r UE, ac rydym yn gweld agwedd fwy cadarnhaol a chydweithredol mewn trafodaethau rhwng Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Ursula von der Leyen, a Phrif Weinidog y DU - Rishi Sunak. Wrth i ni aros am ragor o fanylion ac i’r cynllun hwn ddwyn ffrwyth, mae hyn oll yn edrych yn addawol.

Mae’r mudiad dros Ewrop yng Nghymru a’r DU wedi ei gwneud hi’n glir - byddai rhyfel masnach gyda’n cymdogion yn yr Undeb Ewropeaidd yn hynod niweidiol. Mynegodd degau o filoedd o bobl eu pryderon am hyn drwy ddeiseb lwyddiannus Mudiad Ewropeaidd y DU.

Tra bod trafodaethau pellach yn parhau, ac er y bydd Brexit yn dal i achosi niwed economaidd a chymdeithasol difrifol i Brydain, mae Cymru dros Ewrop yn gobeithio y bydd Fframwaith Windsor yn nodi newid cyfeiriad sylweddol, nid yn unig i leihau rhwystrau masnach i fusnesau yn y DU, ac i feithrin gwell perthynas rhwng Prydain a’r Undeb Ewropeaidd, ond hefyd i sicrhau bod gan bob un o’r pedair gwlad, gan gynnwys Cymru, lais a chynrychiolaeth yn y trafodaethau, fel y gallwn oll weithio i leihau’r difrod o ganlyniad i Brexit.

Credwn nad yw hyn yn mynd yn ddigon pell. Yn gyntaf, nid yw’r fframwaith newydd yn hwyluso’r broses o symud nwyddau ymlaen i Ogledd Iwerddon o’r DU drwy borthladdoedd Cymru a Gweriniaeth Iwerddon. Yn ail, mae angen rhai camau hollbwysig i ddilyn i wella cydweithrediad rhwng pedair gwlad y DU a’r Undeb Ewropeaidd. Yn fwyaf amlwg, mae angen dileu Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio). Mae’n ymrannol, ac yn ymosodiad ar yr amddiffyniadau a’r rheoliadau ar gyfer yr amgylchedd, hawliau gweithwyr a safonau bwyd.

Pan deithiodd Rishi Sunak i Ogledd Iwerddon i werthu Fframwaith Windsor, pwysleisiodd 'safle arbennig' Gogledd Iwerddon o ran cael mynediad i Farchnad Sengl y DU ac Ewrop. Os yw hyn o fudd sylweddol i Ogledd Iwerddon, yna pam na all Cymru, neu’n wir y Deyrnas Unedig gyfan, gael mynediad at Farchnad Sengl yr Undeb Ewropeaidd hefyd?

Bydd Cymru dros Ewrop yn  parhau i ymgyrchu a chydweithio gyda phob plaid wleidyddol a sefydliad sy’n rhannu’r un farn.